Hwylio
Regata 2024: 26 - 28 Gorffennaf
Mae CHA yn cynnig digwyddiadau hwylio a rhwyfo trwy gydol y flwyddyn. Erbyn hyn mae'r rasio'n digwydd mewn mordeithwyr yn bennaf, gan rasio "o amgylch y caniau" i rasys tramwy hirach i wahanol borthladdoedd ar hyd Bae Ceredigion a ras daith Wyddelig na ddylid ei cholli. Mae'r rhaglen yn cychwyn cyn gynted ag y bydd y cychod yn cael eu codi yn ystod mis Ebrill, mae'r tymor yn para hyd nes y bydd y cychod yn cael eu craenio mas ym mis Hydref. Os hoffech chi gymryd rhan mewn rasys, e-bostiwch ni i gael eich ychwanegu at y rhestr bostio.
Mae CHA yn trefnu'r gwaith o godi cychod i'r harbwr ym mis Ebrill a chodi cychod mas ym mis Hydref. Mae aelodau AYC yn cael cyfradd is. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch.
Mae'r amseroedd llanw a'r uchder a gyflenwir yn rhagfynegiadau data llanw bras ar gyfer Aberystwyth. Mae’r swm cywiriad bras sydd ei angen i gyfrifo data ar gyfer detholiad o leoliadau eraill ym Mae Ceredigion fel a ganlyn:
Pont Aberteifi - 23 munud
Cei Newydd - 7 munud
Aberaeron - 5 munud
Aberystwyth
Borth+ 11 munud (yn hwyrach nag Aberystwyth)
DS: Gall tywydd garw effeithio ar uchder y llanw a restrir.