top of page

CROESO I AELODAU NEWYDD BOB AMSER

AYC Membership fees (1).png
AYC Membership Form.jpg

aelodaeth ddyddiol

Aelodaeth dyddiol dros dro ar gael am £2 y diwrnod yn unig i bob oedolyn! Uchafswm o 6 diwrnod o aelodaeth ddyddiol y flwyddyn a ganiateir cyn bod angen aelodaeth lawn. Ar gyfer aelodaeth ddyddiol gwnewch daliad ym mar y Clwb. Mae aelodaeth ddyddiol i rai dan 16 am ddim gydag oedolyn sy'n talu.

Gwesteion yr Aelodau

Mae'r bar ar agor i aelodau a gwesteion yr aelodau, ac i'r cyhoedd ar gyfer digwyddiadau dethol trwy gydol y flwyddyn. Caniateir i aelodau ddod â gwesteion i mewn i Far y Clwb, er na chaiff unrhyw westai ymweld mwy na 4 gwaith y flwyddyn. Mae’n rhaid i westeion lofnodi i mewn ar gyfer pob ymweliad yn y llyfr ymwelwyr, sydd ar y bar ac sy’n ddarostyngedig i reolau’r clwb a gallant aros ar safle’r clwb nes bod yr aelod sy’n llofnodi i mewn yn gadael – aelodau sy’n gyfrifol am ymddygiad eu gwesteion ar safle’r clwb. Mae croeso bob amser i aelodau newydd.

Mae croeso i blant ar safle'r Clwb ar yr amod eu bod dan oruchwyliaeth a rheolaeth y rhieni bob amser.

Mantais arall i aelodau CHA!

Mae Clwb Hwylio Aberaeron yn aelod o'r Royal Yachting Association, a thra eich bod yn aelod o'n clwb mae'n golygu y bydd croeso i chi mewn llawer o glybiau hwylio sy'n aelodau o'r RYA ledled y DU a'r byd os byddwch yn cyflwyno'ch cerdyn aelodaeth! Felly gwnewch y gorau o'ch aelodaeth tra allan.

Royal Solent Yacht Club
bottom of page