Bar
Mae ein bar cyfforddus a’n man dec awyr agored yn edrych allan dros harbwr Aberaeron yn un pen, a Bae Ceredigion yn y pen arall, gan ei wneud yn lle unigryw iawn i gael diod, pryd o fwyd, ymlacio a chymdeithasu. Mae amrywiaeth eang o ddiodydd alcoholig a di-alcohol ar gael, i gyd am rai o’r prisiau rhataf yn y dref!
Yn anffodus bu'n rhaid i Nok Nok, ein harlwywr ar y safle, wneud y penderfyniad anodd iawn i roi'r gorau i fasnachu. Maent wedi danfon bwyd blasus yn y Clwb Hwylio ers dros flwyddyn ac rydym yn drist iawn i’w gweld yn mynd, ond yn dymuno’r gorau i Nok a Julian i’r dyfodol. Isod mae datganiad ganddyn nhw.
​
“It is with heavy hearts that we share some difficult news. Nok’s parents in Thailand are very unwell, and while we had originally planned for her to visit them at the end of January, their condition requires her presence much sooner.
​
As Nok is integral to running Nok Nok to the high standard we pride ourselves on, we’ve made the tough decision to close the business.
​
We want to express our heartfelt thanks for your incredible support over the past year. It’s been an amazing journey, and we’re so grateful that you’ve enjoyed our food and shared so many wonderful moments with us.
​
Thank you again for your kindness and support.
With gratitude,
Nok & Julian"
​
Rydym yn y broses o ddod o hyd i opsiwn arlwyo newydd yn y Clwb, dewch yn ôl yn fuan am ddiweddariad.
​
​
Dydd Gwener
Ar agor o 5pm
​
​
Dydd Sadwrn
Ar agor o 5pm
​
​
Dydd Sul
Ar agor o 12pm
​
​
Sylwch y gallwn gau'n gynharach ar nosweithiau tawel. Bydd oriau'n newid os bydd digwyddiad
Mae'r bar ar agor i aelodau a gwesteion yr aelodau, ac i'r cyhoedd ar gyfer digwyddiadau dethol trwy gydol y flwyddyn. Caniateir i aelodau ddod â gwesteion i mewn i Far y Clwb, er na chaiff unrhyw westai ymweld mwy na 4 gwaith y flwyddyn. Mae’n rhaid i westeion lofnodi i mewn ar gyfer pob ymweliad yn y llyfr ymwelwyr, sydd ar y bar ac sy’n ddarostyngedig i reolau’r clwb a gallant aros ar safle’r clwb nes bod yr aelod sy’n llofnodi i mewn yn gadael – aelodau sy’n gyfrifol am ymddygiad eu gwesteion ar safle’r clwb. Mae croeso bob amser i aelodau newydd, ewch i'n tudalen aelodaeth am gyfraddau.
​
Mae croeso i blant ar safle'r Clwb ar yr amod eu bod dan oruchwyliaeth a rheolaeth y rhieni bob amser.
​
Aelodaeth dyddiol dros dro ar gael am £2 y diwrnod yn unig i bob oedolyn! Uchafswm o 6 diwrnod o aelodaeth ddyddiol y flwyddyn a ganiateir cyn bod angen aelodaeth lawn. Ar gyfer aelodaeth ddyddiol gwnewch daliad ym mar y Clwb. Mae aelodaeth ddyddiol i rai dan 16 am ddim gydag oedolyn sy'n talu.